Angela Evans

Ffocws ar Artist: Angela Evans

Dywedwch ychydig wrthym am eich gwaith!
Mae fy hanes teuluol ac atgofion plentyndod yn chwarae rôl hanfodol yn fy ngwaith.Mae pob casgliad wedi'i ysbrydoli gan un atgof penodol.Pan gaiff f'atgofion eu cyfuno â thechnegau gwneud gemwaith traddodiadol a modern, mae hyn yn arwain at gasgliadau unigryw sy'n ail-greu cyfnodau yn fy mywyd.

Rwy'n ddylunydd a chrefftwr gemwaith. Mae gennyf stiwdio ar hyn o bryd ym Mharc Glyn-llifon ger Caernarfon ond o fis Gorffennaf ymlaen byddaf yn gwerthu fy nwyddau o oriel fechan ar gyfer gemwaith cyfoes ym Miwmares. Mae gennyf radd mewn dylunio tri dimensiwn o Brifysgol Loughborough lle roeddwn i'n arbenigo mewn gemwaith a chrefft arian. Dw i'n cymryd rhan yn rheolaidd mewn arddangosfeydd a byddaf yn cynnal fy arddangosfa unigol gyntaf yn Oriel Ynys Môn, Llangefni, yn 2012. Dw i'n edrych ymlaen at dderbyn fy ngwahoddiad i gymryd rhan yn MADE 2011 ym Mharc Cerfluniau Swydd Efrog a fydd yn dechrau ym mis Hydref. Mae gen i ddau gasgliad o emwaith, a phrisiau'n dechrau tua'r £25.
Beth neu bwy sy'n eich ysbrydoli?
Atgofion a phrofiadau teulu a ffrindiau, fel arfer, pethau sy'n aros yn fy meddwl neu sy'n fy niddori.
Beth yw eich hoff ddeunydd?
Arian, mae'n debyg, ond dw i wrth fy modd â chopr hefyd.
Pryd ddechreuodd eich diddordeb mewn celf? Beth yw'ch atgof celfyddydol cynharaf?
Dw i wastad wedi mwynhau arlunio, peintio a chreu. Dw i'n cofio gwneud hetiau Pasg yn yr ysgol feithrin a defnyddio fy set speirograff - bydd hwnnw'n destun casgliad newydd o waith yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Beth fyddai eich 'superpower' artistig?
Byddai'n braf gallu troi unrhyw beth a phopeth yn arian, does yna fyth ddigon ar gael!
Beth yw eich ofn mwyaf fel artist?
Dangos darn comisiwn i gleient am y tro cyntaf - er fy mod wedi gwneud ar nifer fawr o achlysuron erbyn hyn, dw i'n dal i deimlo'n nerfus.
Tasech chi'n gallu dod ag unrhyw artist yn ôl o farw'n fyw, pwy fyddai hwnnw neu honno?
Anni Albers. Byddwn i wrth fy modd yn clywed sut brofiad oedd bod yn y Bauhaus a bod yn artist benywaidd ar y pryd.
Pa arlunydd byw ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Ted Noten. Mae ei waith yn croesi'r ffin rhwng celfyddyd gain a chrefft gyfoes; mae ei ddarnau yn hollol boncyrs ond dw i wrth fy modd â nhw.
Pe na bai arian yn bwysig, pa weithiau celf hoffech chi eu prynu?
'For the love of God' - Damien Hirst
'Portrait of Eleonora of Toledo as a Young Woman' - Bronzino
Pelagos - Barbara Hepworth
'The man in the bowler hat' - René Magritte
Pa grŵp o artistiaid (byw neu farw) fyddech chi'n eu gwahodd i'r parti swper delfrydol?
Tracey Emin, Andy Warhol, Salvador Dali, Ted Noten, Barbara Hepworth, Pablo Picasso - dw i ddim yn siŵr a fyddai hwnnw'n gyfuniad delfrydol ond byddai'n sicr yn ddiddorol
Oes gennych chi bleserau sy'n gwneud i chi deimlo'n euog?
Dringo i'r gwely ar ddiwrnod gwlyb â photel o win gwyn, bar o siocled a naill ai llyfr da neu ffilm.
Ble welwch chi'ch hun ymhen 10 mlynedd?
Yn gwerthu fy ngemwaith yn Tiffany's?! Alla' i 'mond gobeithio!
Soniwch wrthym am eich stiwdio. Beth fydd yna i ymwelwyr ei weld pan ddônt yno?
Fe ddewch chi trwy gatiau anhygoel a mawreddog Glyn-llifon, a cherdded o'r maes parcio trwy'r coed at yr oriel a'r caffi - gallwch gyrraedd fy ngweithdy i trwy gefn yr oriel. Fe ddewch chi'n gyntaf at fy oriel, lle mae fy holl gemwaith yn cael ei ddangos - gallwch brynu darn os hoffech chi! Yna byddwch yn mynd i mewn i'r ail ystafell, lle dw i'n dysgu dosbarthiadau gwneud gemwaith. Mae yno fwrdd mawr hir yn llawn o wifrau a gleiniau ac offer. Mae fy gweithdy y tu ôl i'r rhaniad nesaf - mae'n siŵr y bydd sŵn morthwylio i'w glywed yno! Dewch i mewn, da chi, i ddweud helô. Mae blaen y gweithdy yn arwain i mewn i'r iard lle mae stiwdios yr artistiaid eraill - gallwch ymweld â'r rhain hefyd os hoffech chi.
Beth ydych chi'n ei hoffi fwyaf am eich stiwdio?
Mae'n fawr, ac yn bwysicach na hynny, mae e yng nghanol Parc godidog Glynllifon.
Pa artistiaid eraill sy'n byw/gweithio yn y cyffiniau?
Ann Catrin Evans - cerflunydd,
Dave Stephen - gwaith â llechi,
Alma Schofield - gwaith ffelt,
Sioned Rowlands - dylunydd â blodau,
Wini Jones-Lewis - artist.
Mae gan y rhain i gyd stiwdios yn y buarth
Unrhyw dafarndai/caffis/bwytai gerllaw?
Mae Caffi'r Black Cat yn y parc a thafarn hyfryd Ty'n Llan dros y ffordd ym mhentref Llandwrog.
Oes yna deithiau cerdded braf neu atyniadau gwledig yn yr ardal?
Ewch i mewn i'r parc, da chi, mae'n anhygoel; mae milltiroedd o lwybrau yno sy'n arwain trwy'r gerddi gwyllt hanesyddol
Mae tudalen Helfa Gelf artist i'w gweld yn y fan hon.