Gwneud Cais

Helfa Gelf/Art Trail

Helfa Gelf 12 yw ein 7fed digwyddiad Stiwdios Agored i artistiaid a chrefftwyr yng ngogledd Cymru. Cynhelir Helfa Gelf ar bob penwythnos ym mis Medi, cyfle arbennig i’r cyhoedd gael cip ar fyd cyfrin a dirgel fel arfer – eich stiwdio chi.

Nod Helfa Gelf yw eich hyrwyddo chi fel artist trwy ddangos a gwerthu eich gwaith i’r cyhoedd yn uniongyrchol. Mae Helfa Gelf hefyd yn rhoi cyfle euraid i chi gyfarfod ag artistiaid eraill yn ogystal â churaduron, swyddogion celf a phobl eraill a allai hybu eich gyrfa.

Pwy gaiff wneud cais?

Artistiaid gweledol a chrefftwyr o bob math, ymhob cyfrwng, a chanddynt stiwdio yn un o siroedd Gwynedd, Conwy, Dinbych, y Fflint neu Wrecsam. I weld rhestr gyfredol o artistiaid, ewch i’n tudalen artistiaid.
Mae hi’n angenrheidiol bod gennych ofod y byddwch yn fodlon ei agor i’r cyhoedd trwy gydol Helfa Gelf, boed y gofod hwnnw’n stiwdio broffesiynol, oriel, llofft sbâr neu sied yn yr ardd. Gallwch hyd yn oed ddod o hyd i weithdy dros dro neu drefnu i rannu gofod gydag artistiaid eraill Helfa Gelf. (Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.)

Beth allwch chi ddisgwyl gennym ni?

  • marchnata a deunydd hysbysebu dwyieithog proffesiynol, wedi’i baratoi ar eich cyfer, gyda gwybodaeth am yr achlysur ac am eich gwaith a’ch stiwdio, yn cynnwys:
  • amryfal gyhoeddiadau argraffedig
  • y safle hon, helfagelf.co.uk, sydd yn cynnwys eich tudalen gyfredol chi gyda thestun a darluniau o’ch gwaith a dolen i’ch gwefan bersonol
  • sylw i’r digwyddiad ar y cyfryngau
  • fforwm ar lein i rannu gwybodaeth a syniadau ac i drafod ag aelodau eraill o Helfa Gelf
  • digwyddiadau a dangosiadau preifat
  • cefnogaeth i’ch gwaith a gwaith hyrwyddo
  • dosbarthiadau meistr a gweithdai datblygu proffesiynol am ddim
  • cyfle i wneud cais a chael eich dethol ar gyfer nifer o arddangosfeydd annibynnol wedi eu curadu. Bydd curaduron yn defnyddio’r delweddau a dderbynnir gennych chi ar eich tudalennau gwe fel man cychwyn ar gyfer dethol.

Beth fyddwn ni’n ei ddisgwyl gennych chi?

Mae’r aelodau o Helfa Gelf sydd wedi denu’r ymwelwyr a’r gwerthiant mwyaf yn cytuno mai’r ffordd orau o elwa ar y profiad yw trwy ddangos ymroddiad, brwdfrydedd ac ymdrech!

Rhaid i bob aelod gytuno i:

  • lynu wrth yr oriau agor (11.00am-5.00pm) a bod ar agor i ymwelwyr ar y dyddiau a addawyd
  • gael lle arbennig i ymwelwyr ac i fod wrthi’n gweithio (cymaint ag sy’n bosib) yn ystod yr ymweliad
  • ddangos baneri er mwyn i ymwelwyr ffeindio eich stiwdio’n hawdd
  • ddarparu unrhyw wybodaeth angenrheidiol a delweddau addas at bwrpasau gwybodaeth a marchnata

Yr ydym hefyd yn eich cynghori’n gryf i:

  • farchnata eich stiwdio
  • wneud eich gorau i sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad cofiadwy. Awgrymir eich bod yn cynnal gweithdai, arddangosiadau a/neu wahodd plant ysgol.
  • gydweithio ag artistiaid lleol eraill i godi eich proffil chi a phroffil y digwyddiad. Rydym yn trefnu’n artistiaid yn glystyrau bychain er mwyn gwneud hyn yn haws. Y cyfan fydd angen i chi ei wneud fydd mynychu cyfarfodydd eich clwstwr chi.

Y manylion:

Pryd?
Bydd yr achlysur yn digwydd o ddyddiau Gwener i ddyddiau Sul gydol mis Medi

Sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn ticio’r blwch ger pob dyddiad addas ar eich ffurflen gais. Gallwch agor am gymaint neu gyn lleied o ddyddiau ag y dymunwch.

Faint?
Mae’r Ffi Aelodaeth yn dibynnu ar faint o ofod y prynwch chi yn ein catalog:

A) Aelodaeth sylfaenol: £55
Bydd aelodau sylfaenol yn derbyn 1 slot yn y catalog fydd yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • 1 ddelwedd
  • Enw’r unigolyn, grŵp neu stiwdio
  • Rhif ffôn cyswllt, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad y stiwdio (Noder os gwelwch yn dda: Os ydych yn GRŴP sy’n gwneud cais am aelodaeth sylfaenol, byddwn yn cyfathrebu â phob aelod o’r grŵp. Dim ond un set o fanylion cyswllt (rhif ffôn, cyfeiriad e-bost) fydd yn ymddangos mewn print.)
  • Cyfarwyddiadau dwyieithog at y stiwdio (100 llythyren o hyd)
  • 1 datganiad artist/grŵp dwyieithog (80 llythyren o hyd)

B) Aelodaeth uwch: £100
Bydd aelodau uwch yn derbyn 2 slot yn y catalog fydd yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • 2 ddelwedd
  • Enw’r unigolyn neu’r grŵp neu’r stiwdio
  • Rhif ffôn cyswllt, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad y stiwdio (Noder os gwelwch yn dda: Byddwn yn cyfathrebu â holl aelodau GRŴP sy’n gwneud cais am aelodaeth uwch. Fodd bynnag, dim ond un rhif ffôn a chyfeiriad e-bost fydd yn ymddangos mewn print.)
  • Cyfarwyddiadau dwyieithog at eich stiwdio (100 llythyren o hyd)
  • Datganiad artist/grŵp dwyieithog (350 llythyren o hyd) (Gan fod mwy o lawer o lythrennau ar gael i aelodau uwch, mae yna ddigon o le i chi restru, er enghraifft, enwau aelodau’r grŵp a’u disgyblaethau celfyddydol/datganiadau artist unigol.

Chi fydd yn penderfynu sut i lanw’r ffurflen. Er enghraifft, gallai grŵp o 6 aelod restru enwau a disgyblaethau pob un a dewis dwy ddelwedd sy’n enghreifftio orau eu gofod nhw. Byddai gan grŵp o ddau aelod ddelwedd yr un a digon o le i restru disgyblaethau celfyddydol a datganiadau artist unigol. Byddai unigolyn yn gwneud cais am aelodaeth uwch yn gallu cynnwys delwedd o’i waith a delwedd o’i stiwdio, datganiad artist a disgrifiad stiwdio manwl neu ddefnyddio’r gofod i hyrwyddo gweithdai, arddangosfeydd neu ddigwyddiadau arbennig.)

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer Helfa Gelf:

  • Cwblhewch y ffurflen gais YN LLAWN a’i chyflwyno ar-lein heb fod yn hwyrach na 1 Mawrth 2012. Bydd yr wybodaeth a dderbynnir gennych yn cael ei defnyddio yn y cyhoeddiad argraffedig (oni nodir yn wahanol). Chi sydd yn gyfrifol am gywirdeb yr wybodaeth, o ran sillafu ac o ran cynnwys.
  • Uwch-lwythwch ddelwedd o’ch gwaith i’w defnyddio ar ddeunydd marchnata. Manylion technegol isod.
  • Uwch-lwythwch CV cyfredol

Caiff eich cais ei drin ar sail ‘y cyntaf i’r felin gaiff falu’, felly gorau po gynharaf y cyflwynwch eich ffurflen! Yn yr ateb awtomatig a dderbyniwch wedi i chi gyflwyno eich cais, byddwch yn derbyn anfoneb a rhif cofrestru unigryw. Os na fyddwn wedi derbyn tâl o fewn 28 diwrnod i ddyddiad eich anfoneb, caiff eich lle ei gynnig i artist arall. Yn anffodus os bydd rhaid i chi dynnu’n ôl o’r digwyddiad wedi i chi gael eich derbyn, ni allwn ddychwelyd eich ffioedd.
Bellach gallwch dalu eich tâl aelodaeth i Helfa Gelf drwy ein cyfrif PayPal ar-lein. Rydym yn derbyn yr holl brif gardiau credyd a debyd. Dewiswch y math o aelodaeth yr hoffech ei brynu a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Fel arall, gallwch ddanfon siec yn daladwy i Helfa Gelf at y cyfeiriad canlynol:

Helfa Gelf
Blwch Post 206
Penmaenmawr
LL30 9FP

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys copi wedi’i argraffu o’r dudalen ateb awtomatig a welwch chi ar ôl cofrestru – mae’n cynnwys eich rhif cyfeirnod unigryw.

Cliciwch fan hyn i wneud cais nawr

DIM GOFOD STIWDIO ADDAS?

Eleni, rydym yn cynnig bwrsari i artistiaid sydd eisiau llogi gofod stiwdio dros dro er mwyn gallu cymryd rhan yn Helfa Gelf. Os oes gennych ofod mewn golwg ac oes angen help arnoch i dalu’r costau perthnasol, danfonwch gais atom erbyn dydd Llun yr 20fed o Chwefror. Cewch wybod erbyn dydd Llun, Chwefror y 27ain sut y gallwn eich helpu.

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais fan hyn: hg_studio_bursary_cy [Word doc, 26kb]

Cwblhewch y ffurflen a’i danfon ar e-bost at sabine@helfagelf.co.uk
Neu drwy’r post at:
Helfa Gelf
Blwch Post 206
Penmaenmawr
LL30 9FP

Mae Iechyd a Diogelwch yn ystyriaeth bwysig i bob un fydd yn cymryd rhan. Nid yw Helfa Gelf yn gyfrifol am yswirio gweithiau celf a chrefft ond fe fydd yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus yn cael ei drefnu ar gyfer y digwyddiad. Cyfrifoldeb cyfranogwyr fydd sicrhau bod eu stiwdios yn cydymffurfio â Rheolau Iechyd a Diogelwch.
Nid yw Helfa Gelf yn derbyn comisiwn am unrhyw werthiannau/ymholiadau/comisiynau ayyb a ddaw yn sgil y digwyddiad Stiwdios Agored.

I gael mwy o fanylion cysylltwch â sabine@helfagelf.co.uk

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!