Amdanom

Mae o'n gyfle gwych i chi gael profi ychydig ar fyd dirgel artistiaid a gwneuthurwyr ein dwy Sir, ac yn ystod tri phenwythnos yr Helfa fe gewch chi'r fraint o 'godi caead pair hud creadigrwydd' ac edrych i mewn i stiwdios y rhai sy'n creu.

Mae gweld artist wrth ei waith, neu sgwrsio efo fo neu hi dros baned ynghanol y paent, y clai a'r llwch llif yn rhoi golwg heb ei ail ar y broses o greu. A gyda cant o artistiaid i ymweld; nhw mae yna'n sicr rhywbeth i bawb.

Mae yna ffotograffwyr, arlunwyr, crochenwyr, gwneuthurwyr basgedi, cerflunwyr, darlunwyr, pobl sy'n gweithio gyda gwydr, tecstiliau, metal, tlwswaith, y cyfryngau newydd, a rhai sy'n argraffu. Prynwch weithiau celf gwreiddiol yn uniongyrchol gan yr artistiaid, am brisiau fydd yn plesio pawb.

Mae Sir Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, yn ein barn ni, yn em a anwybyddwyd ym myd y celfyddydau gweledol a chrefftau yng Nghymru. Mae yma lwythi o artistiaid a phobl crefftau wrthi’n brysur yn ein cymoedd mynyddig a’n cilfannau glan môr. Mae yma orielau hynod a phrosiectau celfyddydol arloesol. Ac fe grêwyd Helfa Gelf Art Trail er mwyn ei gyflwyno fo i gyd i’r byd!

Mae yna ddewis anferth o wahanol ddulliau a chroeso mawr i bawb, bob amser, bob man - ac mae'r cyfan yn rhad ac am ddim!

Mae Helfa Gelf Art Trail wedi ei drefnu gan bwyllgor gwirfoddol o artistiaid a phobl crefftau lleol. Os hoffech chi fod yn rhan ohono, cysylltwch!

Random Artwork Image
Random Artwork Image
Home Ynglŷn â News Artists Hanes Helfa Gelf Contact Forum
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
http://europa.eu/legislation_summaries/agriculture/general_framework/l60032_en.htm
EU/WAG logo