CASC: llandudno 29th march 2012 10-4pm
Nod y gweithdy:
Dysgu’r sgiliau sylfaenol a sut i ddefnyddio’r offer fydd yn galluogi artistiaid i gynhyrchu ffilmiau fideo byrion (tua 2 funud o hyd) i hyrwyddo eu gwaith a’u stiwdios. Gall y ffilm gael ei llwytho wedyn i wefannau Helfa Gelf, YouTube, Vimeo ac ati
Strwythur y Seminar:
- Cyflwyniad byr i greu ffilmiau hyrwyddo – sut i adrodd stori trwy gyfrwng ffilm/lluniau llonydd, golwg ar bwysigrwydd a’r defnydd o sain/tros-lais.
- Coffi
- Profiad ymarferol o ffilmio gofod stiwdio gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddysgwyd yn ystod sesiwn y bore.
- Cinio (wedi’i ddarparu)
- Creu trac sain a/neu dros-lais
- Egwyl
- Golygu’r deunydd crai a dangos eich ffilm ar-lein.
Dewch â:
Camera digidol o unrhyw fath – mae camerâu ar ffônau symudol yn iawn
(Bydd angen i chi ddod hefyd â gwifrau cysylltu a cheblau pŵer eich camera.)
Gliniadur.
12 delweddau llonydd o’ch stiwdio eich hun – gadewch y rhain ar eich camera / ffôn symudol os oes modd. Cof USB neu CD
Eich datganiad artist – un dudalen A4 ar y mwyaf.
Llyfr nodiadau a phen
Yn ogystal â’r uchod, dewch â darn o’ch gwaith a rhai o’ch deunyddiau celf os gwelwch yn dda.
Lle i 6 cyfranogwyr yn unig fydd ar y cwrs hwn oherwydd natur y gweithdy, felly archebwch le mewn da bryd i osgoi cael eich siomi.
I archebu lle, cysylltwch â sabine@helfagelf.co.uk
