




Croeso i Helfa Gelf
Mae Helfa Gelf, Digwyddiad Stiwdios Agored mwyaf Gogledd Cymru, yn eich gwahodd i ymweld ag artistiaid wrth eu gwaith yn eu stiwdios ym mis Medi..
Yn cael ei gynnal am y seithfed tro eleni, mae’r digwyddiad blynyddol rhad-ac-am-ddim hwn yn estyn ar hyd a lled Gogledd Cymru ac yn cynnwys stiwdios yn siroedd Gwynedd, Conwy, y Fflint, Dinbych a Wrecsam. Mae’n gyfle unigryw i ymwelwyr gael cipolwg ar fyd cyfrin ac i sgwrsio ag artistiaid a chrefftwyr am eu prosesau creadigol.
Cewch wybod mwy fan hyn…
Yr Artistiaid
Bob penwythnos ym mis Medi, cewch ddilyn eich trywydd eich hun o gwmpas yr ardal gan bicio i mewn i weld peintwyr, cerflunwyr, ffotograffwyr, gwneuthurwyr gemwaith, gweithwyr coed, crochenwyr, gweithwyr â thecstil, gwydrwyr, basgedwyr ac argraffwyr – pob un â’i ddawn unigryw ei hun.
Manteisiwch ar y cyfle euraid hwn i chwilota am drysorau celfyddydol ac i weld sut y cânt eu creu – pa un ai ydych chi’n chwilfrydig i weld sut mae artistiaid yn mynd ati neu’n awyddus i gychwyn eich casgliad celf eich hun a phrynu gweithiau gan y gwneuthurwyr yn uniongyrchol.

Helfa Gelf
Mae’r stiwdios unigryw i’w canfod mewn lleoliadau o bob math, rhai wedi’u codi’n benodol, eraill yn siediau mewn gerddi neu ystafelloedd cefn, yng nghefn gwlad ac mewn trefi prysur. Byddwch yn derbyn croeso cynnes gan yr artistiaid ble bynnag y bônt, ac yn ymuno â’r nifer cynyddol o gelf-garwyr sy’n mwynhau’r digwyddiad blynyddol hwn.
Cynhelir Helfa Gelf ar bob dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul ym mis Medi yng Ngwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Bydd y stiwdios ar agor yn ddyddiol o 11am-5pm.
Os ydych yn artist ac os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad eleni, cliciwch ar y seren goch “Gwnewch gais ar-lein” ar frig y dudalen i weld yr holl fanylion a’n ffurflen gais ar-lein.
Ffocws ar Artist
Angela EvansMae fy hanes teuluol ac atgofion plentyndod yn chwarae rôl hanfodol yn fy ngwaith.Mae pob casgliad wedi'i ysbrydoli gan un atgof penodol.Pan gaiff f'atgofion…
Darllen mwy...

